Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

1.2.      Cafwyd datganiad o fuddiannau perthnasol gan Alun Davies AS a Mabon ap Gwynfor AS.

 

(09.00 - 09.45)

2.

Sesiwn dystiolaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i drafod yr adroddiad "Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol"

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Adolygiad Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol”

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 6, 7 ac 8 yn y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(09.55 - 10.40)

4.

Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn friffio dechnegol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol o dan arweiniad swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

(10.50 - 11.50)

5.

Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 2

Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd

Heledd Fflur Jones, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn

Gareth Jones, Pennaeth Adran Cynorthwyol, Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd

 

Adroddiad gan Wasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Môn a Gwynedd:

Rheoli'r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Y Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd

Heledd Fflur Jones, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd

Gareth Jones, Pennaeth Adran cynorthwyol, Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd

 

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

6.1

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 

6.2

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).

 

6.3

Llythyr gan Jonathan Edwards AS ynghylch ystadau o dai anorffenedig ac allanoli rheoli adeiladu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Jonathan Edwards AS mewn perthynas ag ystadau o dai anorffenedig a rhoi’r broses o reoli adeiladau ar gontract allanol.

 

6.4

Llythyr gan Rhys ab Owen AS ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rhys ab Owen AS ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd i ymateb.

 

7.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan eitem 2

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ac at randdeiliaid ar faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

8.

Trafod yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a thrafod newidiadau i'w gwneud.

 

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a bu’n trafod materion i'w codi yn ei adroddiad drafft.

 

10.

Ymchwiliad i ail gartrefi – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.