Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30-10.10)

1.

Briff technegol: Prif Swyddog Milfeddygol

Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru.

1.2 Darparodd y Prif Swyddog Milfeddygol linc i'r cyhoeddiad Model Gweithredu Targed ar y Ffin i'r Aelodau.

 

(10.25)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Roedd Carolyn Thomas AS yn dirprwyo ar ei rhan. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

(10.25)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

3.1

Cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach ar 7 Medi 2023

Dogfennau ategol:

3.2

Cyllideb ddrafft 2024-25: Papurau tystiolaeth

Dogfennau ategol:

3.3

Cytundebau masnach

Dogfennau ategol:

3.4

Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4)

Dogfennau ategol:

3.5

Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

(10.25-10.55)

4.

Fframwaith Windsor

Katy Hayward, Athro Cymdeithaseg Wleidyddol, Prifysgol Queens Belfast

Andrew Potter, Athro Trafnidiaeth a Logisteg, Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar Fframwaith Windsor.

 

(11.00-12.10)

5.

Gweinidog yr Economi: Safleoedd Rheolaethau’r Ffin yng Nghymru; a Dyfodol Dur Cymru

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru

Dickie Davis, Dirprwy Gyfarwyddwr, Prosiectau Arbennig ac Adeiladu, Llywodraeth Cymru

Helen John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhaglen Rheoli Ffiniau, Llywodraeth Cymru

Claire McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru

Peter Ryland, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi am y Model Gweithredu Targed ar y Ffin, am Safleoedd Rheolaethau’r Ffin, am Fframwaith Windsor, am Borthladdoedd Rhydd, ac am Tata Steel.

 

(12.10)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.10-12.20)

7.

Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.