Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/06/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.20-09.30)

1.

Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE: Canfyddiadau yn sgil gwaith ymgysylltu

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau’r tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ar gyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE.

 

(09.30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

2.2 Datganodd Sarah Murphy AS ei bod yn aelod o Unite Cymru.

 

(09.30)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

3.1

Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwblhau Prentisiaethau

Dogfennau ategol:

3.2

Adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

3.3

Y DU/Iwerddon/CE: Cytundeb Ariannu ar Raglen PEACE PLUS 2021-2027

Dogfennau ategol:

3.4

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

3.5

Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Dogfennau ategol:

3.6

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Y Flaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

3.7

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

3.8

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

3.9

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig

Dogfennau ategol:

3.10

Cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Dogfennau ategol:

3.11

Ymchwiliad y Pwyllgor i gyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE

Dogfennau ategol:

3.12

Bil Bwyd (Cymru): Adroddiadau Cyfnod 1

Dogfennau ategol:

3.13

Adolygiad ynghylch Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

3.14

Bridwyr hadau indrawn porthiant

Dogfennau ategol:

3.15

Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023 (Gorchymyn 2023)

Dogfennau ategol:

3.16

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Ymgysylltu

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

4.

Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE: Gweinidog yr Economi

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau – Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Aine Gawthorpe, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol ac Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Peter Ryland, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

 

(10.30-11.00)

5.

Gweithgynhyrchu yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 – Gweinidog yr Economi

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau – Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Aine Gawthorpe, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol ac Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.

 

5.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda gwybodaeth ychwanegol am y cynllun gweithredu gweithgynhyrchu ar ei newydd wedd yn manylu ar yr amserlenni tymor byr, tymor canolig a thymor hwy ar gyfer y pwyntiau gweithredu unigol.

 

5.3 Cytnodd y Pwyllgor y byddai’n ysgrifennu at y Gweinidog ar ôl y sesiwn gyda chwestiynau dilynol.

 

(11.15-12.30)

6.

Gweithgynhyrchu yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Dr Llyr ap Gareth, Pennaeth Polisi (Cymru), Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Janis Richards, Cyfarwyddwr Aelodaeth – Cymru, MakeUK

Yr Athro David Pickernell, Polisi Datblygu Busnesau Bach a Menter, Prifysgol Abertawe

Mary Williams, Swyddog Gwleidyddol, Uno’r Undeb Cymru

 

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gydag unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.

 

 

 

(12.35-13.35)

7.

Gweithgynhyrchu yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Yr Athro Keith Ridgway – Cadeirydd, Diwydiant Cymru, ac Uwch Weithredwr, Gweithgynhyrchu, Prifysgol Strathclyde

David Hoare, Uwch-arweinydd Cyfathrebu a Chydymffurfiaeth Safle (Cymru), GE Aerospace

 

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.

 

(13.35)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(13.35-13.45)

9.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(13.45-14.00)

10.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.