Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/03/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30-10.40)

1.

Rhag-gyfarfod preifat

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

(10.40-10.45)

2.

Diwygiadau i’r Cytundeb Partneriaeth Gwleidyddol, Masnach Rydd a Strategol rhwng y DU ac Wcráin

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y diwygiadau i'r Cytundeb Partneriaeth Gwleidyddol, Masnach Rydd a Strategol rhwng y DU ac Wcráin.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynglŷn ag Wcráin.

 

(10.45)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Filfeddygol Prydain.

 

(10.45)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

4.1

Llythyr gan y Cadeirydd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes

Dogfennau ategol:

(10.45-12.15)

5.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog - Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Lesley Griffiths AS

Gavin Watkins, Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

5.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach i'r Pwyllgor ynglŷn â'u gwaith gydar Rhwydwaith Anifeiliaid Anwes

 

(12.30-14.00)

6.

Gwaith Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidogion - Gweinidog yr Economi

Vaughan Gething AS

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau

Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

Chris Hale, Pennaeth Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

6.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach i'r Pwyllgor ynglŷn â'u gwaith gydar Rhwydwaith Anifeiliaid Anwes

6.3 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda mwy o wybodaeth am adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru - cytundebau twf, a'r effaith economaidd.

6.4 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn egluro'r gwaith ar fusnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr a'r rhaniad rhwng Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

6.5 Cytunodd y Gweinidog i anfon nodyn ar y cynnydd gyda phob cytundeb twf.

 

 

(14.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(14.00-14.15)

8.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, ynghylch y mater o gynhyrchion organig a chyfatebiaeth â'r UE.

 

(14.15-14.30)

9.

Cyllid ar ôl yr UE: Papur cwmpas a dull

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpas a dull ar gyfer cyllid ar ôl yr UE, a chytunodd arnynt.