Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30-10.00)

1.

Blaenraglen waith y Pwyllgor - y rhaglen ddeddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil Bwyd (Cymru).

1.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

- ei ddull o graffu Cyfnod 1 a’i gylch gorchwyl drafft;

- yn amodol ar un ychwanegiad, rhestr y rhanddeiliaid i ymgynghori â nhw ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig;

- y tystion i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar;

- cyfnod ymgynghori o 6 wythnos.

 

(10.00-10.10)

2.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Esgyll Siarcod

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau’n trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod a chytunwyd y byddai adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei ddosbarthu mewn gohebiaeth i gytuno arno erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd sef 16 Ionawr.

 

(10.15-12.15)

3.

Bil Amaeth (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft a chytuno arno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad mewn egwyddor, yn amodol ar rai newidiadau i'w cytuno gan yr Aelodau mewn gohebiaeth y tu allan i’r Pwyllgor. Byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 27 Ionawr 2023.