Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 03/02/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod 1.2 Ni chafwyd
ymddiheuriadau na dirprwyon Datganodd Samuel Kurtz ei fod yn Aelod o Ffederasiwn
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, cyfarwyddwr yr elusen sydd wedi bod yn cael arian
gan Lywodraeth Cymru yn flaenorol. |
|
(09.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog yr Economi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Weinidog yr Economi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd: Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd - Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd Lesley Griffiths
AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Gareth Bevington,
Dirprwy Gyfarwyddwr, y Môr a Physgodfeydd Tamsin Brown,
Pennaeth Polisi ar Ddyfodol Pysgodfeydd a Chymorth Is-adrannol Cofnodion: 3.1 Atebodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru,
a’r Trefnydd, a Swyddogion Llywodraeth Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o fanylion am
system labelu ac olrhain gadarn. 3.3 Addawodd y Gweinidog ymgysylltu ymhellach â’r
Pwyllgor, yn bersonol neu mewn gohebiaeth, pan fyddai’r Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y Fframwaith Cyffredin Pysgodfeydd yn cael ei
gyhoeddi. |
|
(10.35-11.35) |
Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd - Y Sector Pysgodfeydd Jim Evans,
Cadeirydd, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru Trevor Jones,
Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai Cofnodion: 4.1 Atebodd Jim Evans a Trevor Jones gwestiynau gan
Aelodau'r Pwyllgor 4.2 Bydd Jim Evans o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru yn rhoi
adroddiad i'r Pwyllgor ar atebion ailgylchu cynaliadwy pan gaiff ei gyhoeddi. |
|
Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd - Grwpiau Amgylcheddol Emily Williams,
Swyddog Polisi Morol, RSPB Cymru Gareth Cunningham,
Pennaeth Pysgodfeydd a Dyframaethu, y Gymdeithas Cadwraeth Forol Cofnodion: 5.1 Atebodd Emily Williams a Gareth Cunningham gwestiynau
gan Aelodau'r Pwyllgor |
||
(13.30-14.30) |
Banc Datblygu Cymru - Craffu ar yr Adroddiad Blynyddol Gareth Bullock,
Cadeirydd Bwrdd Banc Datblygu Cymru Giles Thorley,
Prif Weithredwr David Staziker,
Prif Swyddog Ariannol Mike Owen,
Cyfarwyddwr Buddsoddi Cofnodion: 6.1 Atebodd Gareth Bullock, Giles Thorley, David Staziker
a Mike Owen gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fanc Datblygu
Cymru i fynd ar drywydd materion a godwyd yn ystod y sesiwn graffu |
|
(14.30-14.40) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Yn ddiweddarach,
cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol i'w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 10
Chwefror. |
|
(14.40-14.50) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws). Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws). Yn ddiweddarach, mewn
sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol i'w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau,
sef 10 Chwefror. |
|
(14.50-14.55) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Mewn sesiwn breifat,
penderfynodd y Pwyllgor i gytuno ar adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol mewn gohebiaeth i'w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno adroddiadau, sef 3 Mawrth. |
|
(14.55-15.00) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau. Mewn sesiwn breifat,
cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am gael y wybodaeth
ddiweddaraf am ddatblygiadau gyda’r Bil. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 11.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig |
|
(15.00-15.40) |
Preifat ·
Trafod
tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod ·
Trafod
Fframweithiau Cyffredin ·
Trafod
yr Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar
gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol ·
Trafod
yr Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil
Rhenti Masnachol (Coronafeirws) Cofnodion: 12.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn. 12.2 Bu'r Pwyllgor yn trafodd papur ar Fframweithiau
Cyffredin a chytunodd ar ei ddull o flaenoriaethu'r Fframweithiau i graffu
arnynt ac i gyhoeddi galwad agored am farn rhanddeiliaid ar y Fframweithiau pan
gânt eu cyhoeddi. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: |