Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon

Datganodd Samuel Kurtz ei fod yn Aelod o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, cyfarwyddwr yr elusen sydd wedi bod yn cael arian gan Lywodraeth Cymru yn flaenorol.

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi

2.1

Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd:

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

2.6

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

2.7

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd - Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Gareth Bevington, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Môr a Physgodfeydd

Tamsin Brown, Pennaeth Polisi ar Ddyfodol Pysgodfeydd a Chymorth Is-adrannol

 

Cofnodion:

3.1 Atebodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a Swyddogion Llywodraeth Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o fanylion am system labelu ac olrhain gadarn.

3.3 Addawodd y Gweinidog ymgysylltu ymhellach â’r Pwyllgor, yn bersonol neu mewn gohebiaeth, pan fyddai’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y Fframwaith Cyffredin Pysgodfeydd yn cael ei gyhoeddi.

(10.35-11.35)

4.

Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd - Y Sector Pysgodfeydd

Jim Evans, Cadeirydd, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru

Trevor Jones, Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai

 

Cofnodion:

4.1 Atebodd Jim Evans a Trevor Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

4.2 Bydd Jim Evans o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru yn rhoi adroddiad i'r Pwyllgor ar atebion ailgylchu cynaliadwy pan gaiff ei gyhoeddi.

5.

Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd - Grwpiau Amgylcheddol

Emily Williams, Swyddog Polisi Morol, RSPB Cymru

Gareth Cunningham, Pennaeth Pysgodfeydd a Dyframaethu, y Gymdeithas Cadwraeth Forol

 

Cofnodion:

5.1 Atebodd Emily Williams a Gareth Cunningham gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

(13.30-14.30)

6.

Banc Datblygu Cymru - Craffu ar yr Adroddiad Blynyddol

Gareth Bullock, Cadeirydd Bwrdd Banc Datblygu Cymru

Giles Thorley, Prif Weithredwr

David Staziker, Prif Swyddog Ariannol

Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi

 

Cofnodion:

6.1 Atebodd Gareth Bullock, Giles Thorley, David Staziker a Mike Owen gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fanc Datblygu Cymru i fynd ar drywydd materion a godwyd yn ystod y sesiwn graffu

(14.30-14.40)

7.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Yn ddiweddarach, cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 10 Chwefror.

(14.40-14.50)

8.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws).

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws). Yn ddiweddarach, mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 10 Chwefror.

(14.50-14.55)

9.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Mewn sesiwn breifat, penderfynodd y Pwyllgor i gytuno ar adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn gohebiaeth i'w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 3 Mawrth.

(14.55-15.00)

10.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau. Mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gyda’r Bil.

(15.00)

11.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

11.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(15.00-15.40)

12.

Preifat

·         Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

·         Trafod Fframweithiau Cyffredin

·         Trafod yr Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol

·         Trafod yr Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)

 

Cofnodion:

12.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

12.2 Bu'r Pwyllgor yn trafodd papur ar Fframweithiau Cyffredin a chytunodd ar ei ddull o flaenoriaethu'r Fframweithiau i graffu arnynt ac i gyhoeddi galwad agored am farn rhanddeiliaid ar y Fframweithiau pan gânt eu cyhoeddi.

2.3

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol: