Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon Cyhoeddodd Paul Davies AS a Sam Kurz AS fuddiant
perthnasol mewn perthynas â rheolaethau ffiniau yn sgil Brexit am fod ganddynt
ill dau borthladd yn eu hetholaethau sy’n masnachu â Gweriniaeth Iwerddon. |
|
(09.30) |
Papur(au) i’w nodi |
|
Llythyr gan Ben Cottam, Pennaeth Cymru yn Ffederasiwn Busnesau Bach Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr |
||
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.3.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.4.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr |
||
Llythyr gan Weinidog yr Economi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.5.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.6.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr |
||
(09.30-11.00) |
Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidogion - Gweinidog yr Economi Vaughan
Gething AS Sioned
Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau Andrew
Gwatkin, Cyfarwyddwr, Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Timothy
Render, Cyfarwyddwr, Tir, Natur a Bwyd Peter
Ryland, Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Atebodd Gweinidog yr Economi a swyddogion Llywodraeth
Cymru gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor 3.2 Bydd Gweinidog yr Economi yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y Gronfa Datblygu Busnes ac Adfer ar ôl ei gyfarfod
â Banc Busnes Prydain a Banc Datblygu Cymru. Bydd y Gweinidog yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gostau cynnal y safleoedd rheoli ffiniau
pan fydd mwy o wybodaeth ar gael. |
|
(11.10-12.25) |
Blaenoriaethau Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Sefydliadau ffermio Gareth
Parry, Uwch-swyddog Polisi a Chyfathrebu, Undeb Amaethwyr Cymru Dylan
Morgan, Pennaeth Polisi, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Cymru George
Dunn, Prif Weithredwr, Cymdeithas y
Ffermwyr Tenant Gwyn
Howells, Prif Weithredwr, Hybu Cig Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd y tystion o sefydliadau ffermio gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor |
|
(12.35-13.20) |
Blaenoriaethau Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Lles anifeiliaid Paula
Boyden, Cyfarwyddwr Milfeddygol, Dogs Trust Madison
Rogers, Cats Protection, yn cynrychioli Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru Chris
O'Brien, Uwch-reolwr Materion Cyhoeddus a'r Cyfryngau, RSPCA Cymru Cofnodion: 5.1 Datganodd Luke Fletcher AS fuddiant fel aelod o Achub
Milgwn Cymru, ac fel cefnogwr Hope Rescue 5.2 Atebodd y tystion lles anifeiliaid gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor |
|
(13.20-13.30) |
Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau’r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr
(Cwmnïau a Ddiddymwyd) |
|
(13.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y
cynnig |
|
(13.30-13.40) |
Preifat Trafod
tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 8.1 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at
Weinidog yr Economi ac at y tystion o sefydliadau ffermio a sefydliadau lles
anifeiliaid i ofyn am atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y cyfarfod |
|
(13.40-13.50) |
Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cytunodd yr Aelodau ar adroddiad ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso
Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) sydd i'w osod erbyn 18 Tachwedd, sef y
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adrodd |
|
(13.50-14.00) |
Trafod y flaenraglen waith ar gyfer hydref 2021 - gwanwyn 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd yr Aelodau flaenraglen waith y Pwyllgor ar
gyfer hydref 2021 - gwanwyn 2022 a chytunwyd arni |