Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/10/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Daeth ymddiheuriadau i law oddi wrth Hefin David AS a Luke Fletcher AS

1.2 Roedd Carolyn Thomas yn bresennol fel dirprwy ar ran Hefin David AS a Cefin Campbell yn bresennol fel dirprwy ar ran Luke Fletcher AS

1.3 Datganodd Samuel Kurtz ei fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Datganodd Paul Davies fuddiant i eitem 2 ar yr agenda, llythyr gan Weinidog yr Economi ynghylch llu rheoli ffiniau, gan gyfeirio at y posibilrwydd o leoli safle yn ei etholaeth.

(14.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

2.1

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

2.2

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ynghylch: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

2.3

Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi ynghylch: Safleoedd Rheoli Ffiniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

2.4

Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi ynghylch: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

2.5

Llythyr i Weinidog yr Economi ynghylch: Cytundebau rhyngwladol: Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

2.6

Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol at Gadeirydd Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

2.7

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Lywydd NFU Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

(14.30-15.50)

3.

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog

Lesley Griffiths AS – Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Tim Render – Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd

Dean Medcraft – Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Christianne Glossop – Prif Swyddog Milfeddygol

Matt McKeown - Pennaeth yr Amgylchedd, Ynni a Busnes Llywodraeth Materion Gwledig

Cofnodion:

3.1 Bu’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS, a Swyddogion Llywodraeth Cymru yn ateb cwestiynau Aelodau'r Pwyllgor.

3.2 Mae'r Gweinidog wedi cytuno i roi diweddariad ynghylch y ffigurau sy'n ymwneud â'r strategaeth bwyd môr yng Nghymru a lansiwyd yn 2016.

3.3 At hynny, mae’r Gweinidog wedi cytuno i ystyried y posibilrwydd o wirio microsglodion mewn cŵn wrth reolaethau ffiniau a rhoi ymateb i'r Pwyllgor.

(16.00-16.30)

4.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Rebecca Evans AS – y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Gwenllian Roberts - Prif Swyddog Rhanbarthol – y Gogledd

James Fenwick - Uwch Swyddog Polisi Cymorth Gwladwriaethol

Cofnodion:

4.1 Bu’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, a Swyddogion Llywodraeth Cymru’n ateb cwestiynau Aelodau'r Pwyllgor.

(16.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig

(16.30-16.45)

6.

Preifat

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau’n ystyried y dystiolaeth a glywyd yn ystod y cyfarfod sesiwn, a chytunwyd ar ddull o adrodd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoli Cymorthdaliadau