Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2. Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

(09.45-10.30)

2.

Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.

Jonathan Morgan, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

 

Briff Ymchwil

Papur 1: Holiadur y gwrandawiad cyn penodi (Saesneg yn unig)

Papur 2: Ffurflen gais, CV a datganiad personol (Saesneg yn unig)

Papur 3: Briff Llywodraeth Cymru

Papur 4: Gwybodaeth i ymgeiswyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jonathan Morgan, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

(10.30)

3.

Papur(au) i'w nodi

3.1

Llythyr oddi wrth Kyowa Kirin, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, Clwstwr y Gogledd, ynghylch blaenoriaethu Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru ar gyfer 2022-26

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad o fwriad y polisi o ran Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.3

Llythyr oddi wrth y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.4

Llythyr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 26 Ionawr 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.5

Rhagor o wybodaeth gan Cancer Research UK yn dilyn sesiwn tystiolaeth lafar yr ymchwiliad ar wasanaethau endosgopi ar 2 Chwefror 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(10.30-10.45)

5.

Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: trafod y dystiolaeth

Papur 5 - Adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a gafwyd.

5.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar ei adroddiad drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ar 6 Mawrth 2023.

(10.45-11.45)

6.

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru

Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd

Leanne Roberts, Pennaeth Polisi Diwygio Caffael - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mari Williams, Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth

Lowri Lewis, Cyfreithiwr y Llywodraeth

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol wedi'i harwain gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

(11.45-12.00)

7.

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur briffio technegol a ddaeth i law.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i adolygu ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.