Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 30/11/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. 1.3 Croesawodd y Cadeirydd Jayne Bryant AS, a oedd yn
bresennol ar gyfer eitemau 1-5, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau ar gyfer eitem 8 gan Jack
Sargeant AS. Dirprwyodd KS ar ei ran ar gyfer yr eitem honno. |
|
(09.30-10.45) |
Sganio’r gorwel ym maes gofal cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal Cymru Gillian Baranski,
Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru Vicky Poole,
Dirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Papur 1 –
Tystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Arolygiaeth Gofal Cymru. 2.2 Cytunodd Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu’r eitemau
a ganlyn:
Manylion y gwaith a gaiff ei wneud i wella arweinyddiaeth
a rheolaeth yn y sector gofal cymdeithasol. |
|
(10.45) |
Papur(au) i'w nodi |
|
Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog mewn perthynas â chraffu ar oblygiadau ariannol Biliau Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cadernid Meddwl Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr, a chytunodd i ysgrifennu
at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn
am ragor o eglurder a gwybodaeth. |
||
Llythyr gan Awdurdod Ystadegau'r DU ynghylch adroddiadau'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(10.45-11.00) |
Sganio’r gorwel ym maes gofal cymdeithasol: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(11.00-11.10) |
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru Papur 2 -
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â Llywodraeth
Cymru, a chytunodd i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(11.10-11.20) |
Craffu ar waith Iechyd a Gofal Digidol Cymru: trafod y llythyrau drafft Papur 3 - Craffu
ar waith Iechyd a Gofal Digidol Cymru Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnwys y llythyrau drafft at
Iechyd a Gofal Digidol Cymru a phrif weithredwyr y byrddau iechyd. |
|
(11.20-12.15) |
Anghydraddoldebau iechyd meddwl – trafod yr adroddiad drafft Papur 4 -
Anghydraddoldebau iechyd meddwl: cyhoeddi’r adroddiad Papur 5 -
adroddiad drafft Papur 6 - Grŵp cynghori ar-lein anghydraddoldebau
iechyd meddwl: crynodeb o ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad
drafft a chytunodd i ystyried unrhyw newidiadau dros e-bost. |