Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS.

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

(09.30-10.30)

2.

Deintyddiaeth – sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru a Chymdeithas Orthodontig Prydain

Russell Gidney, Cadeirydd, Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

Dan Cook, Is-gadeirydd, Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

Dr Ben Lewis, Cymdeithas Orthodontig Prydain

Dr Yvonne Jones, Cymdeithas Orthodontig Prydain

 

 

Briff ymchwil

Crynodeb Ymgysylltu: Adroddiad Astudiaeth Achos

Papur 1 – Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

Papur 2 – Cymdeithas Orthodontig Prydain

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru a Chymdeithas Orthodontig Prydain.

2.2 Nododd Ben Lewis y byddai gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn y British Dental Journal yn nhymor yr hydref 2022 am y canlyniadau a ddeilliodd o arolwg cynhwysfawr a gynhaliwyd ynghylch gweithlu’r GIG, a oedd yn dangos ble yng Nghymru yr oedd darparwyr gwasanaethau orthodontig wedi’u lleoli. Cytunodd i anfon copi o’r wybodaeth at y Pwyllgor unwaith y byddai ar gael.

2.3 Cytunodd Dan Cook i ddarparu gwybodaeth am dâl cyfartalog deintyddion cyffredinol, gan gynnwys manylion ynghylch unrhyw wahaniaethau mewn cyflog sy’n bodoli ymhlith y rhai sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer y GIG a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau preifat.

(10.45-11.45)

3.

Deintyddiaeth – sesiwn dystiolaeth gyda’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dr David Tuthill, Swyddog Cymru, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Helen Twidle, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Age Cymru

Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

 

Papur 3 – Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Papur 4 – Age Cymru

Papur 5 – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ac Age Cymru, a chan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

(11.45)

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

4.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn ag iechyd meddwl amenedigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(11.45-12.00)

6.

Deintyddiaeth: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.