Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd
yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau
gan Jack Sargeant AS. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o
fuddiant. |
|
(09.30-10.30) |
Deintyddiaeth – sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru a Chymdeithas Orthodontig Prydain Russell Gidney,
Cadeirydd, Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, Cymdeithas
Ddeintyddol Prydain yng Nghymru Dan Cook,
Is-gadeirydd, Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, Cymdeithas
Ddeintyddol Prydain yng Nghymru Dr Ben Lewis,
Cymdeithas Orthodontig Prydain Dr Yvonne Jones,
Cymdeithas Orthodontig Prydain Briff ymchwil Crynodeb Ymgysylltu: Adroddiad Astudiaeth Achos Papur 1 – Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru Papur 2 – Cymdeithas Orthodontig Prydain Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru a Chymdeithas Orthodontig Prydain. 2.2 Nododd Ben Lewis y byddai gwybodaeth yn cael ei
chyhoeddi yn y British Dental Journal yn nhymor yr hydref 2022 am y
canlyniadau a ddeilliodd o arolwg cynhwysfawr a gynhaliwyd ynghylch gweithlu’r
GIG, a oedd yn dangos ble yng Nghymru yr oedd darparwyr gwasanaethau
orthodontig wedi’u lleoli. Cytunodd i anfon copi o’r wybodaeth at y Pwyllgor
unwaith y byddai ar gael. 2.3 Cytunodd Dan Cook i ddarparu gwybodaeth am dâl
cyfartalog deintyddion cyffredinol, gan gynnwys manylion ynghylch unrhyw
wahaniaethau mewn cyflog sy’n bodoli ymhlith y rhai sy'n darparu gwasanaethau
ar gyfer y GIG a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau preifat. |
|
(10.45-11.45) |
Deintyddiaeth – sesiwn dystiolaeth gyda’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dr David Tuthill,
Swyddog Cymru, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Helen Twidle,
Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Age Cymru Heléna Herklots,
Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru Papur 3 – Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Papur 4 – Age Cymru Papur 5 – Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ac Age Cymru, a chan Gomisiynydd Pobl
Hŷn Cymru. |
|
(11.45) |
Papur(au) i'w nodi |
|
Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn ag iechyd meddwl amenedigol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(11.45-12.00) |
Deintyddiaeth: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod
y sesiwn. |