Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS. Dirprwyodd Ken Skates AS ar ei ran ar gyfer eitem 3.

 

(09.30-10.30)

2.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda'r sector gofal sylfaenol

Dr Julie Keely, Cadeirydd, Cyfadran De-orllewin Cymru Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a chynrychiolydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ar Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Meddwl Colegau Brenhinol

Yr Athro Euan Hails, Aelod Bwrdd Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru

Lisa Turnbull, Rheolwr Materion Seneddol a Materion Cyhoeddus – Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

 

Briff ymchwil

Papur 1 – Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
Papur 2 – Gr
ŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Meddwl Colegau Brenhinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r sector gofal sylfaenol.

 

(10.45-11.45)

3.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda'r sector gofal eilaidd

Yr Athro Keith Lloyd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

 

Papur 3 - Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain

Papur 4 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

3.2 Cytunodd yr Athro Lloyd i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn: rhannu’r dystiolaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd ynghylch cymunedau lleiafrifoedd ethnig a'r Ddeddf Iechyd Meddwl; darparu awgrymiadau ynghylch y camau y gallai Llywodraeth Cymru neu bobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl sy’n ymwneud â phobl hŷn, pobl â nam ar eu clyw, pobl â chyflyrau niwrowahanol, a grwpiau difreintiedig eraill; a mynegi barn ynghylch Greater Good, adnodd ar-lein a grëwyd gan Brifysgol Berkley, California, i rannu arfer gorau o ran iechyd meddwl a lles.

 

(11.45)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Llywydd ynghylch Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2022 ("Rheoliadau 2022")

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45-12.00)

6.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dystiolaeth

Papur 5 – ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl: y camau nesaf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd yr Aelodau ar gamau nesaf yr ymchwiliad.

 

 

(12.00-12.15)

7.

Blaenraglen Waith

Papur 6 – blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen fusnes ar gyfer tymor yr hydref.