Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: O bell 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/06/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(11.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.

(11.15-12.00)

2.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gydag academyddion

Yr Athro Amanda Kirby, Cadeirydd - ADHD Foundation

Yr Athro Anita Thapar, yr Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol – Prifysgol Caerdydd


Pecyn gwybodaeth i gyfranogwyr
Briff Ymchwil
Papur 1 – ADHD Foundation

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Amanda Kirby a’r Athro Anita Thapar.

(12.00)

3.

Papurau i'w nodi

3.1

Ymateb gan y Cadeirydd i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

3.2

Gwybodaeth ychwanegol gan yr Athro Rob Poole, y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 4 Mai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

3.3

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.4

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch Gweithrediaeth y GIG i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 (a) Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y 34 o sefydliadau a ysgrifennodd yn ddiweddar at y Pwyllgor, ynghylch sefydlu Gweithrediaeth y GIG annibynnol, i roi iddynt gopi o lythyr y Gweinidog ac i ofyn am eu barn ar ymateb y Gweinidog.

3.5

Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor: Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

(12.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(12.00-12.15)

5.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.