Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: O bell 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

(13.00-14.00)

2.

Ymchwiliad i ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau trydydd sector

Jake Smith, Swyddog Polisi – Gofalwyr Cymru
Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol Cymru – Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Kate Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru - Y Groes Goch Brydeinig



Briff ymchwil
Papur 1 – Gofalwyr Cymru

Papur 2 – Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Papur 3 – Y Groes Goch Brydeinig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr sefydliadau’r trydydd sector.

 

(14.15-15.00)

3.

Ymchwiliad i ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda’r sector tai

Chris Jones, Prif Weithredwr - Gofal a Thrwsio Cymru

Faye Patton, Swyddog Polisi ac Ymchwil - Gofal a Thrwsio Cymru

Catherine May, Rheolwr Tyfu Tai Cymru - Y Sefydliad Tai Siartredig


Papur 4 – Gofal a Thrwsio Cymru
Papur 5 – Y Sefydliad Tai Siartredig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r sector tai.
3.2 Cytunodd Chris Jones – Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio – i ddarparu'r ffigyrau diweddaraf ar y galw gan gleifion am gefnogaeth gan y gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach.

3.3 Cytunodd Chris Jones i ddarparu gwybodaeth a data i'r Pwyllgor ynghylch arferion rhyddhau o’r ysbyty, a graddau'r oedi ledled Cymru.

 

(15.00)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.2

Ymateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

(15.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(15.00-15.15)

6.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd.

6.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a phrif weithredwyr byrddau iechyd ynghylch a fyddai cyllid yn cael ei ddarparu yn 2022-23 ar gyfer y gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach.