Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/03/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AS.

 

(09.30-10.45)

2.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru – Llywodraeth Cymru

Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru

 

Briff ymchwil
Papur 1 – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod wedi hyfforddi a gweithio fel gweithiwr cymdeithasol.

2.3 Awgrymodd Mike Hedges AS y dylai'r Pwyllgor ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am wybodaeth am nifer y bobl ym mhob awdurdod lleol sy'n aros i grantiau cyfleusterau i'r anabl gael eu cymeradwyo a'u rhoi ar waith.

 

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 8, 9, 10 ac 11 o gyfarfod heddiw

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(10.45-11.00)

4.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd a nododd feysydd i'w cynnwys yn yr adroddiad.

 

(11.10-12.10)

5.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda’r Ganolfan Iechyd Meddwl a’r Sefydliad Iechyd Meddwl

Andy Bell, Dirprwy Brif Weithredwr - Canolfan Iechyd Meddwl
Dr Antonis Kousoulis, Cyfarwyddwr Cymru a Lloegr – Sefydliad Iechyd Meddwl


Briff ymchwil
Papur 2 – Canolfan Iechyd Meddwl
Papur 3 – Sefydliad Iechyd Meddwl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a'r Sefydliad Iechyd Meddwl.

 

(13.00-14.00)

6.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
Kirrin Spiby-Davidson, Cynghorydd Polisi - Comisiynydd Plant Cymru
Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl H
ŷn Cymru


Papur 4
Comisiynydd Plant Cymru
Papur 5
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

(14.00)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch deiseb P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7.2

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

(14.00-14.15)

8.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dystiolaeth

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Papur 6 – Canfyddiadau ymgysylltu

Papur 7 – Camau nesaf yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd a chytunwyd ar ei ddull gweithredu ar gyfer cam nesaf yr ymchwiliad.

 

(14.15 - 14.30)

9.

Blaenraglen Waith

Papur 8 – blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y drafodaeth ar ôl toriad y Pasg.

 

(14.30 - 15.15)

10.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod yr adroddiad drafft

Papur 9 – adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a fydd yn cael eu cytuno drwy e-bost.

 

(15.15-15.30)

11.

Iechyd menywod a merched: trafod llythyr

Papur 10 – llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr.