Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig: O bell
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/01/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. |
|
(09.30-11.45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan AS,
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS,
y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS,
y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Judith Paget, Cyfarwyddwr
Cyffredinol yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG
Cymru – Llywodraeth Cymru Steve Elliot,
Cyfarwyddwr Cyllid – Llywodraeth Cymru Albert Heaney,
Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru – Llywodraeth Cymru Claire Bennett,
Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi – Llywodraeth Cymru Tracey Breheny,
Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i
Niwed – Llywodraeth Cymru Briff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r
Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. |
|
(11.45) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch amseroedd aros Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd ynghylch amseroedd aros Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Fframweithiau Cyffredin dros dro ar gyfer Organau, Meinweoedd a Chelloedd ac ar gyfer Ansawdd a Diogelwch Gwaed Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch yr Adroddiad Cyntaf ar Weithredu'r Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr dilynol gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch y DU/y Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr dilynol. |
||
Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd ynghylch Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 ledled y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr. 3.8 (a) Nododd Rhun ap Iorwerth y llythyr a gofynnodd a
allai’r Pwyllgor ei drafod yn ystod eitem 6. Cytunodd y Cadeirydd. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at Emrys Elias, Cadeirydd Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch y sesiwn graffu ar ôl penodi ar 4 Tachwedd 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Cadeirydd at Emrys Elias, Cadeirydd Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch y sesiwn graffu ar ôl penodi ar 4 Tachwedd 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.10 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y broses benodi gyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.11 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y broses benodi gyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.12 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd mewn perthynas â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru gyda chwestiynau dilynol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 4 Tachwedd 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.15 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Unsain at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.16 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.17 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.18 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd ynghylch amserlen Busnes Pwyllgorau’r Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.19 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 7 a 9 cyfarfod heddiw Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(11.45-12.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nododd feysydd ac argymhellion
i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft. |
|
(12.00-12.15) |
Blaenraglen Waith Papur 2 – Blaenraglen
waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod pa fusnes i'w gynnal ar 10
Mawrth a chytunwyd i ddychwelyd at y drafodaeth yn y cyfarfod nesaf. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y drafodaeth ar
ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref yn ddiweddarach. |
|
(12.15-12.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau: trafod y dull Papur 3 – Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar ei ddull gweithredu. 7.2 Cytunodd y
Pwyllgor y byddai swyddogion yn siarad ar wahân ag Aelodau a oedd am awgrymu
rhanddeiliaid ychwanegol y dylid ceisio tystiolaeth ysgrifenedig ganddynt. |
|
(13.00-14.00) |
Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr a The King’s Fund Sue Hill,
Cyfarwyddwr Dros Dro yng Nghymru - Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr Briff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
The King’s Fund a Choleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr. 8.2 Cytunodd Jonathon Holmes – Cynghorydd Polisi, The
King’s Fund – i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ar yr ystod o
debygolrwydd y byddai pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn Lloegr
yn aros yn hirach am driniaeth na phobl sy’n byw mewn ardaloedd llai
difreintiedig. 8.3 Cytunodd Sue Hill – Cyfarwyddwr Dros Dro yng Nghymru,
Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr – i ddarparu manylion am nifer y swyddi llawfeddygol
gwag fel cyfran o'r gweithlu llawfeddygol yng Nghymru ac yn Lloegr. |
|
(14.00-14.15) |
Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |