Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/12/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AS ar gyfer rhan y prynhawn o'r cyfarfod.

 

(09.30-10.30)

2.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd

Dai Davies, Arweinydd Ymarfer Proffesiynol, Cymru – Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Calum Higgins, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru – Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi 

Dr Christian Egeler, Cyfadran Meddygaeth Poen

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Papur 1 - Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Papur 2 - Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

 

(10.45-11.30)

3.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda Chynghrair Canser Cymru

Richard Pugh, Cadeirydd - Cynghrair Canser Cymru

Andy Glyde, Is-gadeirydd - Cynghrair Canser Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cynghrair Canser Cymru.

3.2 Cytunodd Andy Glyde i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o wybodaeth am ble y dylid targedu adnoddau a buddsoddiad mewn gwasanaethau canser. 

 

(11.30)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch fframweithiau cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.2

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch fframweithiau cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch deiseb P-05-1045: dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.4

Ymateb gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-05-1045: dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

4.5

Llythyr gan Weinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.6

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.7

Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6, 7 8 ac 11.

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.30-11.45)

6.

Ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dull gweithredu

Papur 3 - cwmpas a dull

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynigion a nodwyd yn y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad hwn.

 

(11.45-12.00)

7.

Strategaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd

Papur 4 - Strategaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd - cynllun cyhoeddi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dulliau arfaethedig o ddefnyddio, cyhoeddi a chyfathrebu strategaeth Pwyllgor y Chweched Senedd.

 

(12.00-12.30)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 

(13.00-14.00)

9.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pobl â gwahanol gyflyrau iechyd

Mary Cowern, Cyfarwyddwr - Cymru yn erbyn Arthritis

Joseph Carter, Pennaeth y Cenhedloedd Datganoledig - Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Asthma UK

Gemma Roberts, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus - Sefydliad Prydeinig y Galon

Elin Edwards, Rheolwr Materion Allanol - RNIB Cymru

Papur 6 - Cymru yn erbyn Arthritis

Papur 7 - Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Asthma UK
Papur 8 - Sefydliad Prydeinig y Galon

Papur 9 - RNIB Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan sefydliadau sy’n cynrychioli pobl â gwahanol gyflyrau iechyd.
9.2 Cytunodd Gemma Roberts – Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus y British Heart Foundation – i ddarparu manylion y rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol gyfrifiadurol a roddwyd ar waith gan Lywodraeth yr Alban, er mwyn cynyddu cymorth i gleifion sydd wedi'u gosod ar restr aros ar gyfer llawdriniaethau sy'n gysylltiedig â chyflwr y galon.

 

(14.15-15.15)

10.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau sy’n cynrychioli llais y cleifion

Alyson Thomas, Prif Weithredwr - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned
Kate Young, Cadeirydd - Cynghrair Cynhalwyr Cymru
Helen Twidle, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol -Age Cymru

Papur 10 - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned
Papur 11 – Age Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan sefydliadau sy’n cynrychioli lleisiau cleifion.

 

(15.15-15.30)

11.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.