Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/11/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd Joyce Watson MS fod aelod agos o'r teulu yn aelod o'r Coleg Nyrsio Brenhinol.

 

(09.30-10.45)

2.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau gofal cychwynnol

Yr Athro Peter Saul, Cyd-gadeirydd - Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu Cymru

Helen Whyley, Cyfarwyddwr - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Judy Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Contractwyr - Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Elen Jones, Cyfarwyddwr - Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru



Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Papur 1 - tystiolaeth ysgrifenedig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu Cymru

Papur 2 - tystiolaeth ysgrifenedig gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Papur 3 - tystiolaeth ysgrifenedig gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Papur 4- tystiolaeth ysgrifenedig gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr sefydliadau gofal sylfaenol.
2.2 Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r tystion mai dyma oedd diwrnod olaf yr Athro Peter Saul yn ei dymor tair blynedd fel cyd-gadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

 

(11.00-12.00)

3.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau iechyd meddwl a chymorth seicolegol

Yr Athro Euan Hails, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol a Therapiwtig – Hafal

Simon Jones, Pennaeth Polisi a Dylanwadu - Mind Cymru

Papur 5 - tystiolaeth ysgrifenedig gan Adferiad Recovery

Papur 6 - tystiolaeth ysgrifenedig gan Mind Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr sefydliadau iechyd meddwl a chymorth seicolegol.

3.2 Datganodd Rhun ap Iorwerth MS mai ef yw cyd-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Covid Hir.

 

(12.00)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.2

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidogion gyda chwestiynau dilynol o'r sesiwn graffu gyffredinol ar 23 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.3

Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cwestiynau dilynol o'r sesiwn graffu gyffredinol ar 23 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd Mike Hedges MS nad oedd yn fodlon â'r ymateb ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r cwestiwn a gododd ynghylch a oedd awdurdodau lleol yn gwario eu hasesiadau gwariant safonol a'u gwariant.

 

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl: Adroddiad Blynyddol 2020-21

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.5

Llythyr gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.7

Ymateb gan y Cadeirydd i'r llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

4.8

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Y DU/Y Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.00-12.15)

6.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gymerwyd a nododd faterion i'w codi mewn tystiolaeth yn y dyfodol ac allbynnau'r Pwyllgor.

 

(12.15-12.30)

7.

Strategaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd

Papur 7 - Strategaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddogfen strategaeth yn amodol ar fân ychwanegiadau a gofynnodd i swyddogion baratoi fersiwn o'r strategaeth i'w chyhoeddi.

 

(12.30-12.45)

8.

Fframweithiau cyffredin: ystyried y dull gweithredu

Papur 8 - nodyn briffio ar fframweithiau cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn am wybodaeth ychwanegol i lywio ei waith craffu ar y Fframwaith Cyffredin Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd.

 

(12.45-13.00)

9.

Cynllun y Gaeaf ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021 i 2022 Llywodraeth Cymru: ystyried y dull gweithredu

Papur 9 - Cynllun y Gaeaf ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021 i 2022 Llywodraeth Cymru: papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu a awgrymwyd.