Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/07/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(15.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y
Pwyllgor yn y Chweched Senedd. 1.2 Cyflwynodd y Cadeirydd a'r Aelodau eu hunain ar gyfer
y cofnod. |
|
(15.15-15.20) |
Cylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nododd yr aelodau gylch gwaith y Pwyllgor. |
|
(15.20) |
Papurau i'w nodi |
|
Diweddariad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg ar y pryd ynghylch cynnydd o ran argymhellion a wnaeth Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd yn ei adroddiad: 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y diweddariad. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg ar y pryd i argymhellion a wnaeth Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd yn ei adroddiad ar effaith COVID-19 ar y sector gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Adroddiad Gwaddol Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3 Nododd y Pwyllgor adroddiad gwaddol ei bwyllgor
rhagflaenol. |
||
Adroddiad gwaddol Fforwm y Cadeiryddion y Bumed Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.4 Nododd y Pwyllgor adroddiad gwaddol Fforwm
Cadeiryddion y Bumed Senedd. |
||
(15.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(15.25-15.40) |
Gweithdrefnau pwyllgorau a'u ffyrdd o weithio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd yr aelodau weithdrefnau yn ymwneud â
Phwyllgorau, a chytunwyd ar y ffyrdd o weithio a fyddai’n well. |
|
(15.40-16.00) |
Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ymgynghori â rhanddeiliaid a'r
cyhoedd yn ystod yr haf ynghylch blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd er
mwyn llywio datblygiad dull strategol o gyflawni ei gylch gwaith. |
|
(16.00-16.15) |
Gwaith cynnar y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei flaenraglen waith ar gyfer
hanner cyntaf tymor yr hydref, ac i gyhoeddi blaenraglen waith dreigl maes o
law. |