Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS; dirprwyodd Ken Skates AS ar ei ran.

 Nid oedd unrhyw ddatganiadau.

(09.15-10.45)

2.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed – Llywodraeth Cymru

Ed Wilson, Dirprwy Gyfarwyddwr Anghydraddoldebau a Gwelliannau Iechyd Cyhoeddus – Llywodraeth Cymru

Julie Annett, Pennaeth Polisi Awtistiaeth – Llywodraeth Cymru

 

Briff ymchwil

Papur 1 – Grŵp cynghori ar-lein: cyfarfod un

Papur 2 – Anghydraddoldebau iechyd meddwl: Crynodeb ymgysylltu: Gweithlu

Papur 3 – Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a swyddogion Llywodraeth Cymru.

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ymestyn adran 25B Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i leoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl.

2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am ddatblygu a gweithredu'r set data craidd ar iechyd meddwl.

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn, ac o eitemau 1, 2 a 3 y cyfarfod ar 6 Hydref 2022.

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(10.45-11.00)

4.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd.