Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/05/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AS a Jack Sargeant AS. Dirprwyodd Ken Skates AS ar ran Jack Sargeant AS.

 

(09.30-10.30)

2.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda'r Athro Carolyn Wallace, Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru

Yr Athro Carolyn Wallace, Cyfarwyddwr - Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru

 

 

Papur briffio Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Carolyn Wallace.

 

(10.45-11.45)

3.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE), Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Papur 1 – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn cwestiynau dilynol.

 

(11.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 9 a 10 yn ystod y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45-12.15)

5.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunwyd y dylid trafod diwygiadau ychwanegol drwy e-bost.

 

(13.00-14.00)

6.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda Mind Cymru a Leonard Cheshire

Sue O'Leary, Cyfarwyddwr - Mind Cymru

Ashra Khanom, Trysorydd - Cymdeithas Gymunedol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Castell-nedd Port Talbot

Rhian Stangroom Teel, Rheolwr Ymgysylltu Cyhoeddus – Leonard Cheshire

Nia Golding, Rheolwr Ardal - Leonard Cheshire

Papur 3 – Mind Cymru

Papur 4 – Leonard Cheshire

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Mind Cymru a Leonard Cheshire.

 

(14.15-15.00)

7.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda'r Athro Syr Sam Everington

Yr Athro Syr Sam Everington

 

 

Papur 5 - Yr Athro Syr Sam Everington

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Syr Sam Everington.

 

(15.00)

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.2

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

8.3

Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog ynghylch cylch gorchwyl drafft ymchwiliad COVID-19 y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.4

Ymateb gan y Prif Weinidog i'r Cadeirydd ynghylch cylch gorchwyl drafft ymchwiliad COVID-19 y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

8.5

Agweddau’r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn y pandemig COVID-19. Gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Senedd Cymru ac a luniwyd mewn ymgynghoriad ag Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.5 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

8.6

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframweithiau cyffredin dros dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.7

Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframweithiau cyffredin dros dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.7 Nododd y Pwyllgor yr ymateb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth.

 

8.8

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) (y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol) ar y Bil Iechyd a Gofal (y Bil)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.9

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) (y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol) ar y Bil Iechyd a Gofal (y Bil)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.10

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch datganiad a chynllun ansawdd iechyd menywod a merched

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.11

Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch datganiad a chynllun ansawdd iechyd menywod a merched

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.11 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

(15.00-15.15)

9.

Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.15-15.30)

10.

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu: trafod y llythyr drafft

Papur 6 – llythyr drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod y llythyr drafft mewn rhagor o fanylder drwy e-bost.