Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/06/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.15 - 10.05)

2.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - sesiwn dystiolaeth 3

Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru

Kat Watkins, Swyddog Datblygu CCUHPA, Anabledd Cymru

Megan Thomas, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Anabledd Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anabledd Cymru, a chafwyd ymddiheuriadau gan Miranda Evans a oedd yn methu â dod i’r sesiwn.

2.2 Cytunodd Anabledd Cymru i ymchwilio ymhellach i ddarparu gwybodaeth am fynediad i ofal plant a data ar blant anabl sydd â Saesneg fel ail iaith. 

 

(10.10 - 11.00)

3.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - sesiwn dystiolaeth 4

Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol, Anabledd Dysgu Cymru

Adele Rose Morgan, ymgyrchydd addysg gynhwysol, Anabledd Dysgu Cymru

Georgia Miggins, Aelod o'r Senedd Ieuenctid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anabledd Dysgu Cymru.

3.2 Gwnaethant gytuno i ddarparu sylwadau rhieni a gofalwyr ynghylch gallu plant ag anableddau i fynd i ysgol brif ffrwd leol.

3.3 Gwnaethant gytuno i roi ymatebion ysgrifenedig i unrhyw gwestiynau na roddwyd sylw iddynt.

 

(11.10 - 12.00)

4.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - sesiwn dystiolaeth 5

Karen McFarlane, Swyddog Polisi: Tlodi a Phlant sy’n Agored i Niwed, Plant yng Nghymru a Chadeirydd TSANA

Francesca Wright, Prif Swyddog Cynorthwyol, Snap Cymru

Cath Lewis, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd, Cŵn Tywys Cymru

Chris Haines, Rheolwr Materion Allanol, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

George Baldwin, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Cymru, y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar

Gwen Anslow, Fforwm Cymru Gyfan

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan TSANA.

4.2 Gwnaethant gytuno i roi enghreifftiau gan Fudiad Meithrin ar y rhwystrau i gael mynediad at ofal plant i blant sy'n niwrowahanol neu sydd ag anabledd dysgu. Gwnaethant gytuno hefyd i ddarparu rhagor o enghreifftiau o hygyrchedd yr ystâd ysgolion i ddysgwyr sydd â phob math o anableddau.

 

 

(12.00)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

5.2

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

5.3

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

5.4

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

5.5

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

5.6

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.10)

7.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(12.10 - 12.20)

8.

Gwrandawiad cyn penodi Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

8.1 Cytunwyd ar yr adroddiad drafft, a fyddai'n cael ei osod ar 8 Mehefin.