Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30 - 10.00)

1.

Gweithredu diwygiadau addysg - Trafod y camau nesaf

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor gamau nesaf y gwaith y mae'n ei wneud ar ddiwygiadau addysg. Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:

- ymweld â rhai ysgolion uwchradd yn nhymor y gwanwyn/haf;

- targedu rhai rhanddeiliaid i ymateb i'r ymgynghoriad;

- cael adborth o'r tu allan i Gymru gan sefydliadau addysg uwch ynghylch y cwricwlwm newydd; a

- chynllunio i gynnal y sesiwn wirio ffurfiol nesaf ym mis Ebrill/Mai 2023.