Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/10/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates AS. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe ai fod yn aelod or Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU).

(09.15 - 10.15)

2.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - sesiwn dystiolaeth 6

Ben Lewis, Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, yn cynrychioli AMOSSHE

Kirsty Palmer, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Sharon Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol De Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan AMOSSHE.

(10.25 - 11.25)

3.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - sesiwn dystiolaeth 7

Lynne Hackett, Swyddog Arweiniol ar gyfer addysg uwch, UNSAIN Cymru

Jamie Insole, Swyddog Polisi, Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan UCU ac Unsain.

3.2 Cytunodd UCU i ddarparu gwybodaeth am rôl tiwtoriaid personol ac a oes unrhyw anghenion hyfforddi ar gyfer tiwtoriaid a staff cymorth eraill a fyddai'n eu helpu i ymdrin yn briodol â myfyrwyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.

(11.30 - 12.30)

4.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - sesiwn dystiolaeth 8

David Blaney, Prif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan CCAUC.

 

(12.30)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

5.1

Gwybodaeth gan randdeiliad

Dogfennau ategol:

5.2

Gwybodaeth gan randdeiliaid

Dogfennau ategol:

5.3

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Prisiau Ynni

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn, ac o Eitem 1 y cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 17 Tachwedd

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

(12.30- 12.35)

7.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.