Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 31/03/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.00)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.00 - 09.50)

3.

Trafod ffyrdd o weithio, cynllun strategol a blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau y flaenraglen waith a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion amrywiol. Cytunwyd hefyd i ba feysydd yr hoffent gynnal yr ymchwiliadau polisi nesaf. Dyma hwy:

·       Absenoldeb disgyblion

·       Gweithredu diwygiadau addysg

·       Iechyd Meddwl ym maes Addysg Uwch

·       Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, gweithio ar y cyd â’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

3.2 Trafododd yr Aelodau'r ffyrdd o weithio a chytunwyd sut yr hoffent ddefnyddio'r slotiau cyfarfod ar gadw yn yr amserlen newydd. Cytunwyd hefyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar ffurf hybrid yn bennaf.

3.3 Yn dilyn canfyddiadau'r gwaith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, cytunodd yr Aelodau i ddiweddaru'r cynllun strategol i adlewyrchu prif flaenoriaeth plant a phobl ifanc ar yr amgylchedd.

 

(09.50 - 10.00)

4.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Trefn Ystyried - cytuno cyn trafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Drefn y Broses Ystyried.