Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 - sesiwn dystiolaeth 2

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg - Llywodraeth Cymru

Huw Morris, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

2.2 Dywedodd y Gweinidog y byddai ei swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â chlercod y Pwyllgor, pe bai angen, er mwyn nodi yn y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd ganddo i'r Pwyllgor fanylion penodol am y cyllid a ddarperir ar gyfer codi safonau mewn ysgolion.

 

(11.00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn rhannu unrhyw ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad y Pwyllgor ar flaenoriaethau a fyddai'n berthnasol i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i anghydraddoldebau iechyd meddwl.

 

3.1

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Dogfennau ategol:

3.2

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

3.3

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.4

Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dogfennau ategol:

3.5

Blaenraglen waith – Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

3.6

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer y cyfarfod cyfan ar 27 Ionawr

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00 - 11.30)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(11.40 - 12.00)

6.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr – trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu o ran yr ymchwiliad, yn amodol ar gael rhai rhanddeiliaid ychwanegol ar gyfer cael tystiolaeth lafar a rhagor o wybodaeth am ddulliau eraill o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.

(12.15 - 12.30)

7.

Trafod amserlen y Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod amserlen y Pwyllgor. Bydd ymateb drafft yn cael ei drafod yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.