Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/03/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 O dan Reol Sefydlog 17.22 etholwyd Ken Skates AS yn
Gadeirydd Dros Dro am y cyfarfod cyfan. 1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AS a James
Evans AS, ac roedd Peter Fox AS yn dirprwyo ar ran James. Roedd Laura Jones AS
yn absennol ar gyfer rhywfaint o eitem 3 ac o eitem 4 yn gyfan. Roedd Sioned
Williams AS yn absennol ar gyfer eitem 6. |
|
(09.15 - 10.15) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 6 Laura Doel, Cyfarwyddwr Cymdeithas
Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) Cymru Chris Parry,
Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) Cymru Eithne Hughes, Cyfarwyddwr Cymdeithas
Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
undebau arweinwyr ysgolion. 2.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r
cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion i gael ymateb
ysgrifenedig. |
|
(10.25 - 11.25) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 7 Mary van den
Heuvel, Uwch-swyddog Polisi yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Mairead Canavan,
Ysgrifennydd Rhanbarth NEU Bro Morgannwg, ac Aelod Gweithredol NEU Rebecca Williams,
Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi Undeb Cenedlaethol Athrawon
Cymru (UCAC) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
undebau athrawon. |
|
(11.35 - 12.35) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 8 Kelly Harris,
Arweinydd Datblygu Busnes a Chyfranogiad
Brook Cymru Iestyn
Wyn, Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil, Stonewall Cymru Sophie
Weeks, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu, Cymorth i Ferched Cymru Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Stonewall Cymru a Brook Cymru. |
|
(13.00 - 13.30) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 9 Yr Athro EJ
Renold, Prifysgol Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro EJ Renold.
5.2 Cytunodd yr Athro Renold i ddarparu data i'r Pwyllgor
ar nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol sy'n cyrraedd y trothwy ar gyfer bod
yn drosedd. 5.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r
cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tyst i gael ymateb
ysgrifenedig. |
|
(13.40 - 14.10) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 10 Kerry Packman,
Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni, Aelodaeth a Gwasanaethau Elusennol
ParentKind Ceri Reed,
Cyfarwyddwr CBC Lleisiau Rhieni yng Nghymru Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
blith rhieni a gofalwyr. 6.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r
cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion i gael ymateb
ysgrifenedig. |
|
(14.20 - 14.50) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 11 Cyfarwyddwr yng
Ngwersyll Llangrannog, Canolfan Breswyl yr Urdd Sally Thomas,
Rheolwr Hawliau, Polisi ac Eiriolaeth Merched y DU, Plan UK International Siobhan Parry,
Pennaeth Gwasanaethau Pobl Ifanc Platfform
Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r
gwasanaethau ieuenctid. |
|
(14.50) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 8.1 Cafodd y papurau eu nodi. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ei barn ar y papur i’w nodi 3. |
|
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol: |
||
Amserlen y Pwyllgorau Dogfennau ategol: |
||
Blaenoriaethau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
(14.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod cyfan ar 31 Mawrth. Cofnodion: 9.1 Derbyniwyd y cynnig i gynnal gweddill y cyfarfod yn
breifat. |
|
(14.50 - 15.00) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 10.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiynau blaenorol. |