Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Amseriad disgwyliedig: Drafft 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/10/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30 - 12.00)

1.

Sesiwn cynllunio strategol y Pwyllgor

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Anne Jones AS a Buffy Williams AS.

 

1.2 Rhoddwyd cyflwyniad i’r Aelodau gan y clerc a'r tîm ymchwil ynghylch cynllunio strategol a'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r ymgynghoriad ar flaenoriaethau.

 

1.3 Cytunodd yr Aelodau ar weledigaeth ac amcanion y Pwyllgor; a gwnaethant nodi y byddent yn dod yn ôl atynt ac yn eu hadolygu yn y flwyddyn newydd. Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi gweledigaeth y Pwyllgor.