Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Nododd y Cadeirydd y byddai Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Siân
Gwenllian AS ar gyfer eitemau 1-8. 1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams
AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi
gan Brifysgol Abertawe. |
|
(09.00 - 09.05) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
Cwricwlwm i Gymru Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
(09.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.05 - 09.20) |
Trafod y dull o ymdrin â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2022 - 2023 Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dull ar gyfer craffu ar y
gyllideb ddrafft. 4.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol: - ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol yn gofyn am
wybodaeth cyn y sesiynau tystiolaeth lafar; ac - yn lle trefniant ffurfiol ar gyfer gweithio ar y cyd
gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddai'n rhannu unrhyw dystiolaeth
ysgrifenedig berthnasol â'r Pwyllgor. |
|
(09.20 - 09.30) |
Cyflwyniad i Ddeddfwriaeth Cofnodion: 5.1 Cafodd yr Aelodau gyflwyniad gan y Clerc ar y broses
ddeddfwriaethol. |
|
(09.30 - 10.30) |
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - papur briffio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) Cofnodion: 6.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Brif Weithredwr
a Dirprwy Brif Weithredwr CCAUC. |
|
(10.35 - 11.35) |
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - papur briffio technegol gan Lywodraeth Cymru Cofnodion: |
|
(11.35 - 11.45) |
Trafod y dull o ymdrin â'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil. 8.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol: - y cylch gorchwyl drafft; - ei ddull o graffu yng Nghyfnod 1; - yn amodol ar ychydig o ychwanegiadau, rhestr y
rhanddeiliaid ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig; - y tystion i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar; a - chyfnod ymgynghori o chwe wythnos. |
|
(12.30 - 15.30) |
Sesiwn hyfforddi’r pwyllgor ar ddiogelu, wedi'i hwyluso gan yr NSPCC (rhan 2) Cofnodion: 9.1 Cymerodd yr Aelodau ran mewn sesiwn hyfforddi ar
ddiogelu. |