Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Amseriad disgwyliedig: Drafft 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/09/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Ken Skates AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4  Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(09.15 - 09.20)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Amserlen Fusnes y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

2.2

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-2023

Dogfennau ategol:

2.3

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

2.4

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

2.5

Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dogfennau ategol:

2.6

Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

2.7

Gweithio ar y cyd â’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

2.8

Amserlen Fusnes y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

2.9

Cwricwlwm i Gymru

Dogfennau ategol:

2.10

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

2.11

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

(09.20)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 ar yr agenda

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(09.20 - 09.30)

4.

Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Cytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg i gael rhagor o wybodaeth.

 

4.2 Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 7 Hydref.

 

(09.30 - 09.55)

5.

Paratoadau’r Pwyllgor ar gyfer y sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cofnodion:

5.1 Paratôdd yr Aelodau ar gyfer y sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

 

(10.00 - 11.30)

6.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Owain Lloyd, Cyfarwyddwr, y Cyfarwyddiaeth Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

- faint o arian ychwanegol sydd wedi cael ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion;

- y llythyr gan Gymwysterau Cymru ynghylch gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru;

- gwaith modelu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r effaith ar sefydliadau Cymru os rheolir mynediad myfyrwyr o Loegr i addysg uwch neu os caiff ffioedd yn Lloegr eu torri yn dilyn ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad y Panel Annibynnol ar yr adolygiad o addysg ôl-18.

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda'r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn.

 

 

 

 

 

(11.30 - 11.45)

8.

Trafod y dystiolaeth o’r sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(12.30 - 15.30)

9.

Sesiwn hyfforddi pwyllgorau ar ddiogelu, wedi'i hwyluso gan yr NSPCC

Cofnodion:

9.1 Cymerodd yr Aelodau ran mewn sesiwn hyfforddi ar ddiogelu.