Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/03/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 09.35)

1.

Mynediad at addysg i blant a phobl ifanc anabl - trafod y cwmpas a'r dull gweithredu.

Cofnodion:

1.1         Cytunodd y Pwyllgor ar y cwmpas a’r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad yn amodol ar y newidiadau a drafodwyd.

 

(09.35)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Ymddiheurodd Buffy Williams o ran eitemau 1 – 3.

1.3 Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS i’r cyfarfod.

 

(09.35 - 10.35)

3.

Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 13

Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadeirydd newydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan (AWHOCs)

Taryn Stephens, Pennaeth Gwasanaeth Plant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; ac Is-gadeirydd newydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan (AWHOCs)

Sally Jenkins, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Dinas Casnewydd

 

Tystiolaeth fideo gan ADSS

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS).

3.2 Cytunodd y Gymdeithas i ddarparu rhagor o wybodaeth am ddatblygu cartref plant fferm y Felin Wynt yn Llanfaches.

3.3 Cytunodd y Cadeirydd i unrhyw gwestiynau heb eu gofyn gael eu hanfon ar gyfer ymateb ysgrifenedig.

 

(10.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 5, eitem 8 ac eitem 9 ar agenda’r cyfarfod hwn, ac o’r cyfarfodydd cyfan ar 14 Mawrth a 22 Mawrth.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.35 - 10.45)

5.

Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol.

 

(11.00 - 12.30)

6.

Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 14

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney,  Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Gwasanaethau Cymdeithasol,  Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog

6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi adborth i'r Pwyllgor gan bobl ifanc a oedd wedi cael y cymhorthdal incwm sylfaenol.

 

(12.30)

7.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

7.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

7.1

Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

7.2

Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

7.3

Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

7.4

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr

           .

 

Dogfennau ategol:

(12.30 - 12.45)

8.

Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(12.45 - 12.50)

9.

Trafod y gwahoddiad i’r Bwrdd Cyflawni a Throsolwg Gweinidogol ar y Cyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y gwahoddiad, a byddai llythyr yn cael ei anfon ar y cyd at Weinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog gyda phenderfyniad y Pwyllgor.