Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/07/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS,
dirprwyodd Vikki Howells AS ar ei rhan. 1.3 Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Sioned Williams AS ar
gyfer eitemau 1 i 6 ar yr agenda. Roedd Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran yr
eitemau hynny. |
|
(10.45 - 12.00) |
Gweithredu diwygiadau addysg - sesiwn dystiolaeth 1 Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Georgina Haarhoff,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm Hannah Wharf, Dirprwy
Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog
ynghylch olrhain y ffigurau ar gydbwysedd y disgyblion ar Gynlluniau Datblygu
Unigol, faint sy’n cael eu cynnal gan ysgolion a faint sy’n cael eu cynnal gan
restr yr awdurdodau lleol, yn ogystal â nifer y disgyblion sydd ar yr hen
gofrestr Anghenion Addysgol Arbennig ac sydd bellach yn cael eu cefnogi o dan y
system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Absenoldeb disgyblion Dogfennau ategol: |
||
Absenoldeb disgyblion Dogfennau ategol: |
||
Absenoldeb disgyblion Dogfennau ategol: |
||
Absenoldeb disgyblion Dogfennau ategol: |
||
P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod cyfan ar 21 Medi Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.35) |
Absenoldeb disgyblion - trafod y materion o bwys Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion o bwys. Bydd
adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf. |
|
(12.35 - 12.45) |
Plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal - trafod y cwmpas a’r dull gweithredu Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cwmpas a’r dull gweithredu ar
gyfer yr ymchwiliad. Cytunwyd y byddai papur manylach yn cael ei ystyried yn
nhymor yr hydref. |
|
(12.45 - 12.50) |
Blaenraglen waith yr hydref - diweddariad llafar ar y dull o gynnal gwaith Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Cymwysterau Cymru a CBAC
i’r Pwyllgor ar gyfer sesiwn graffu ar y cyd ar haf 2022, dyddiad y cyfarfod
i’w gadarnhau. 7.2 Bu'r Pwyllgor yn trafod a chytuno ar y dull o gynnal
y sesiynau craffu blynyddol gyda Cymwysterau Cymru, Estyn a'r Comisiynydd
Plant. |
|
(12.50 - 13.00) |
Gweithgareddau'r Pwyllgor - diweddariad ar lafar Cofnodion: 8.1 Rhoddodd yr Aelodau ddiweddariadau llafar ar
weithgareddau’r Pwyllgor yr oeddent wedi’u cyflawni yn ystod y tymor, gan
gynnwys: - Ymweliad â Gweithredu dros Blant Caerffili - Ymweliad ag Ysgol Gynradd Monnow - Ymweliad â Chanolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd - Ymweliad ag Ysgol Gynradd Rhosymedre - Adborth am yr ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor
Diwylliant ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - Diweddariad ar gyfarfodydd gweinidogol misol |