Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 4 - Tŷ Hywel

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/06/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.00)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 3, 6, 7 ac 8

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.00 - 09.10)

3.

Absenoldeb disgyblion - canfyddiadau yn dilyn ymgysylltu â rhieni a phobl ifanc

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau ganfyddiadau'r adroddiad ymgysylltu. Cytunwyd y dylid ei rannu â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant.

 

(09.15 - 10.45)

4.

Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 7

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg 

Sian Jones, Pennaeth Cefnogi Cyflawniad a Diogelu, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth ynghylch a yw data absenoldeb o'r ysgol a gwybodaeth am absenoldeb o'r ysgol yn cael eu defnyddio fel arwyddion cynnar ar gyfer salwch meddwl ymhlith pobl ifanc.

4.2 Pan fydd ar gael, cytunodd y Gweinidog i roi i’r Pwyllgor y gwerthusiad o’r cyllid a oedd ar gael yn 2021-22 i awdurdodau lleol ddarparu cymorth emosiynol, cymorth iechyd meddwl a chymorth ychwanegol o ran llesiant i bobl ifanc.

4.3 Cytunodd y Gweinidog i ddod i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y cymorth a ddarperir i ofalwyr ifanc yn yr ysgol.

 

(10.45)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papur.

 

5.1

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Dogfennau ategol:

(11.00 - 11.15)

6.

Absenoldeb disgyblion - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

 

(11.15 - 12.00)

7.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu allan i’r cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(12.00 - 12.20)

8.

Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - ystyried cwmpas a dull gweithredu

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o gynnal yr ymchwiliad, yn amodol ar gael rhai rhanddeiliaid ychwanegol i roi tystiolaeth lafar.