Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2023 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Daeth ymddiheuriadau i law oddi wrth Rhianon Passmore AS

1.3         Gwnaed datganiad llafar gan Adam Price AS ynghylch ei swydd fel Comisiynydd y Senedd ac oherwydd hyn, ni fyddai’n cymryd rhan mewn trafodion yn ystod y cyfarfod a oedd yn ymwneud â materion y Comisiwn

 

(09.15-09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llythyr oddi wrth Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ar Faes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr oddi wrth Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad, ar Fferm Gilestone

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr oddi wrth Brif Weithredwr a Chlerc Comisiwn y Senedd

Dogfennau ategol:

(09.35-10.35)

3.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

Manon Antoniazzi

Prif Weithredwr a Chlerc Comisiwn y Senedd

 

Ken Skates AS

Comisiynydd, Comisiwn y Senedd

 

Kate Innes

Prif Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd

 

Papur ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, Comisiynydd y Senedd sy’n gyfrifol am y Gyllideb a Chyllid, Cyfarwyddwr Adnoddau’r Senedd, a Phrif Swyddog Cyllid y Senedd fel rhan o’i waith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Senedd 2022 -23.

 

(10.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer gweddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(10.40-11.00)

5.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law – Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law

 

(11.00-11.30)

6.

Briff cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Papur ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol (Saesneg yn unig)

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ganllawiau a ddarparwyd gan dîm Cyfreithiol y Senedd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

(11.30-12.00)

7.

Sesiynau briffio Archwilio Cymru ar eu hadroddiadau ar Gwm Taf Morgannwg, adroddiad cynllun gweithlu'r GIG ac offeryn data cyllid y GIG.

Papurau ategol:

Papur briffio gan Archwilio Cymru

Papur briffio ar ddata gweithlu’r GIG, mis Medi 2023 (Saesneg yn unig)

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Gwaith Dilynol ar yr Adolygiad ar y Cyd o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd, mis Awst 2023

Adroddiad briffio ar ddata ynghylch Gweithlu’r GIG- Medi 2023

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod adroddiadau Archwilio Cymru.