Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/07/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15-09:30)

1.

Adfywio Canol Trefi: Papur Cwmpasu diwygiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu diwygiedig a chytunodd i gynnal ymweliadau â chanol trefi amrywiol fel rhan o'r ymchwiliad.

 

(09:30-10:00)

2.

Papur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael.

 

(10:00-10:15)

3.

Blaenraglen waith Diweddariad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith.

 

(10:15-10:45)

4.

Comisiynu Cartrefi Gofal: Trafod yr adroddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ynghylch comisiynu cartrefi gofal a chytuno arno.

 

(11:00)

5.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.

 

(11:00-12:00)

6.

Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Prynu Fferm Gilestone

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol - Grŵp yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad, Llywodraeth Cymru

Jason Thomas – Cyfarwyddwr - Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

Gerwyn Evans - Dirprwy Gyfarwyddwr - Cymru Greadigol

Tim Howard - Dirprwy Gyfarwyddwr – Eiddo, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar brynu Fferm Gilestone gydag Andrew Slade, Jason Thomas, Gerwyn Evans a Tim Howard o Lywodraeth Cymru.

 

(12:00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 8

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:00-12:30)

8.

Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru: Prynu Fferm Gilestone: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y tystion gyda nifer o gwestiynau ychwanegol.