Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/06/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15 - 09:20)

1.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

1.1 Nodwyd y papur

 

1.1

Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddyfodol y Gwasanaeth Awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn

Dogfennau ategol:

(09.20 - 10.30)

2.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Maes Awyr Caerdydd

Spencer Birns – Prif Weithredwr, Maes Awyr Caerdydd

Wayne Harvey – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

David Walters – Prif Swyddog Cyllid, Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Faes Awyr Caerdydd gan Spencer Birns, Wayne Harvey, a David Walters.

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(10.30 - 10.50)

4.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn breifat gyda Maes Awyr Caerdydd a Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth breifat ar Faes Awyr Caerdydd gyda thystion o Faes Awyr Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

 

(11.00 - 12.00)

5.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Tracey Burke -  Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Jonathan Moody - Pennaeth Hedfanaeth, Porthladdoedd a Logisteg

Stephen Rowan - Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltedd Cenedlaethol a Rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar Faes Awyr Caerdydd gyda Tracey Burke, Stephen Rowan a Jonathan Moody o Lywodraeth Cymru.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 7 ac 8

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.15)

7.

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y tystion mewn perthynas â nifer o bwyntiau.

 

(12.15 - 12.30)

8.

Papur cwmpasu: Gofal Iechyd Digidol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafodwyd y papur cwmpasu, a chytunodd yr Aelodau i gynnal sesiwn dystiolaeth ar y cyd â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Gofal Iechyd Digidol Cymru.