Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/06/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen AS. Roedd Rhun ap Iorwerth yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09.45 - 10.00)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i weithredu’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (5ed Senedd), sef Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol - y stori hyd yma.

Dogfennau ategol:

(10.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Item 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.00 - 11.00)

4.

Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Y prif faterion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y prif faterion yn ymwneud ag ymchwiliad y Pwyllgor i Gomisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn.

 

(11.10 - 12.00)

5.

Adfywio Canol Trefi: sesiwn dystiolaeth

Karel Williams - Athro Cyfrifeg a’r Economi Wleidyddol,

Ysgol Fusnes Alliance Manchester

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Karel Williams o Ysgol Fusnes Alliance Manchester.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 7

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.30)

7.

Adfywio Canol Trefi: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.