Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/05/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a nododd etholiad Rhys ab Owen AS i'r Pwyllgor ar 10 Mai yn lle Cefin Campbell AS.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen AS a Rhianon Passmore AS. Dirprwyodd Peredur Owen Griffiths AS ar ran Rhys ab Owen AS.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Sesiwn dystiolaeth 3

Maria Bell – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dave Street - ADSS Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Maria Bell o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Dave Street o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

(10.25 - 11.25)

3.

Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Sesiwn dystiolaeth 4

Helena Herklots – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

3.2 Gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod dros dro ar ôl y cwestiwn cyntaf. Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Cafodd Natasha Asghar AS ei henwebu gan Peredur Owen Griffiths AS. Cymeradwyodd y Pwyllgor yr enwebiad.

 

(11.45 - 12.45)

4.

Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth

Dr Andrew Goodall – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol, fel rhan o'i waith craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus.

 

(12.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn:

Eitemau 6 a 7

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.45 - 12.55)

6.

Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.55 - 13.00)

7.

Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.