Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Hybrid
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/11/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon
Passmore AS |
|
(09.15 - 11.15) |
COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â materion iechyd Judith Paget –
Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd / Prif Weithredwr GIG Cymru Frank Atherton – Prif
Swyddog Meddygol Jo-Anne Daniels -
Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethiant y GIG Steve Elliott –
Cyfarwyddwr Cyllid Elin Gwynedd -
Dirprwy Gyfarwyddwr Brechlyn COVID-19 Albert Heaney –
Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru Jonathan Irvine -
Cyfarwyddwr Caffael a Gwasanaethau Negesydd Iechyd Samia
Saeed-Edmonds - Cyfarwyddwr y Rhaglen Gynllunio Andrew Sallows -
Cyfarwyddwr Cyflawni Rhaglen Lisa Wise –
Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwadau Llawdriniaeth (CDP) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth
Cymru ar COVID-19 a'i effaith ar faterion iechyd. 2.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Judith Paget,
Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd / Prif Weithredwr y GIG gyda chwestiynau na
chyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn a materion a godwyd gan Aelodau wrth drafod y
dystiolaeth a gafwyd, yn breifat. |
|
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 4 a 5 o’r cyfarfod heddiw ac Eitemau 1 i 5 o'r
cyfarfod ar 1 Rhagfyr 2021 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.25 - 11.55) |
Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod yr Ymatebion i Adroddiadau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried ac yn trafod yr ymatebion i
holl Adroddiadau’r Pwyllgor blaenorol ynghyd ag ymatebion Llywodraeth Cymru i
Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol,
a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020. 4.2 Bu'r Aelodau hefyd yn trafod y mater o dderbyn
argymhellion y Pwyllgor ‘mewn egwyddor'. 4.3 Nododd yr aelodau y ddadl a drefnwyd yn y Cyfarfod
Llawn ar gyfer 24 Tachwedd ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015. |
|
(11.55 - 12.30) |
COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |