Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/11/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Dirprwyodd Jenny Rathbone AS ar ei rhan.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Maes Awyr Caerdydd – Sesiwn dystiolaeth gyda Maes Awyr Caerdydd

Spencer Birns – Prif Weithredwr, Maes Awyr Caerdydd

Wayne Harvey – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

David Walters - Prif Swyddog Cyllid, Maes Awyr Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn o Faes Awyr Caerdydd: Spencer Birns, Prif Weithredwr; Wayne Harvey, Cadeirydd; a David Walters, Prif Swyddog Cyllid.

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(10.20 - 11.30)

3.

Maes Awyr Caerdydd – Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Steve Vincent – Cyfarwyddwr Dros Dro, Seilwaith Economaidd – Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

John Howells – Cyfarwyddwr, Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio – Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Jonathan Moody – Pennaeth y Tîm Hedfanaeth, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn o Lywodraeth Cymru: Andrew Slade, Steve Vincent, John Howells a Jonathan Moody.

2.2 Cytunodd Andrew Slade i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(11.30 - 11.40)

4.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

4.1

Craffu ar Gyfrifon 2020-21 – Comisiwn y Senedd Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd (22 Hydref 2021)

Dogfennau ategol:

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6, 7 a 8 o'r cyfarfod heddiw

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40 - 12.00)

6.

Maes Awyr Caerdydd – Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.00 - 12.15)

7.

Gweithdrefnau pwyllgorau a’u ffyrdd o weithio: Cylch gwaith Gweinyddiaeth Gyhoeddus – trafod y llythyr ymgynghori

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr ymgynghori. Awgrymwyd y dylid ychwanegu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y tri Chomisiynydd Statudol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol at y rhestr ymgynghori.

 

(12.15 - 12.30)

8.

Craffu ar Gyfrifon – Llywodraeth Cymru 2018-19: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol (4 Hydref 2021)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd yr Aelodau y llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol.