Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/10/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon – y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09.05 - 10.30)

2.

Craffu ar Gyfrifon - Comisiwn y Senedd 2020-21

Manon Antoniazzi – Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

 

Nia Morgan – Cyfarwyddwr Cyllid

 

Ken Skates AS - Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Comisiwn y Senedd ar yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21.

2.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i roi gwybodaeth ychwanegol am nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(10.35 - 11.05)

3.

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i'r Adroddiad.

3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru, ynghylch yr arfer o 'dderbyn mewn egwyddor' mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor.

3.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gyda'r ymatebion a gofyn inni ystyried sut y gall y ddau Bwyllgor gydweithio ar y mater hwn.

3.4 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal dadl bellach er mwyn gallu trafod yr ymatebion i'r Adroddiad.

 

 

(11.05 - 11.15)

4.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2020-21

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau yr Adroddiad.

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eu barn ar y canllawiau diwygiedig y mae Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol yn cyfeirio atynt mewn perthynas â chymhwyso Cyfrifon y Llywodraeth.

 

 

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6 - 10

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

6.

Craffu ar Gyfrifon - Comisiwn y Senedd 2020-21 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a nodwyd y byddai'r Clercod yn paratoi'r adroddiad drafft.

 

(11.30 - 11.45)

7.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddefnyddio'r Adroddiad i lywio materion craffu ehangach.

 

(11.45 - 12.00)

8.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyllid Myfyrwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd sy'n destun pryder gyda Llywodraeth Cymru wrth graffu ar y sesiynau tystiolaeth ar gyfer y Cyfrifon yn ddiweddarach yn y tymor.

 

(12.00 - 12.15)

9.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adfywio canol trefi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd sy'n destun pryder gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y diweddariad ar COVID-19 a'r effaith ar y Grŵp Llywodraeth Leol ac Addysg, a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr 2022.

 

(12.15 - 12.30)

10.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at fis Mawrth 2021

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at fis Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

10.2 Nododd y Pwyllgor yr astudiaeth.