Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/09/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon – y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS

 

(09.05)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 3 - 10

 

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.05 - 09.20)

3.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cadw gwasanaeth TGCh Llywodraeth Cymru yn fewnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd rhai materion yn ystod y broses o graffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2020-21 yn ddiweddarach yn y tymor.

 

(09.20 - 09.35)

4.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Profi, Olrhain, Diogelu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd pryder a allai fod ganddo gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y tymor.

 

 

(09.35 - 09.50)

5.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Caffael a Chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Pandemig COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd pryder a allai fod ganddo gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y tymor.

 

 

 

(09.50 - 10.00)

6.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trefniadau Llywodraethu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd pryder a allai fod ganddo gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y tymor.

 

 

 

(10.00 - 10.15)

7.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Gweithredu rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd pryder a allai fod ganddo gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y tymor.

 

 

 

(10.15 - 10.25)

8.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.

8.2 Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol wedi gwneud rhywfaint o waith ar ôl cyhoeddi Adroddiad ar y cyd cyntaf Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn 2019 ac mae'r Pwyllgor olynol yn ymwybodol o'r Adroddiad diweddaru hwn. Nododd y Pwyllgor hefyd y gwaith parhaus sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r materion a godwyd a bod Archwilio Cymru yn bwriadu cynnal astudiaeth ddilynol bellach mewn 12-18 mis.

 

 

(10.25 - 10.55)

9.

Gweithdrefnau pwyllgorau a’u ffyrdd o weithio: Cylch Gwaith Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried ac yn trafod cylch gwaith Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Pwyllgor.

 

(11.00 - 12.30)

10.

Gweithdrefnau pwyllgorau a’u ffyrdd o weithio: Hyfforddiant Techneg Holi

Cofnodion:

10.1 Cynhaliodd Kate Faragher o Bespoke Skills sesiwn hyfforddi gyda'r Aelodau ar dechnegau cwestiynu.