Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00 - 14.05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon – y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(14.05 - 14.20) |
Sefydlu pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nododd yr Aelodau bapur cylch gorchwyl.y Pwyllgor. |
|
(14.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.20 - 15.30) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd yr Aelodau weithdrefnau'r Pwyllgor a thrafod
nifer o ffyrdd o weithio. 4.2 Cafodd yr Aelodau drafodaeth hirfaith ar feysydd eang
y gwaith posibl a awgrymwyd ar gyfer tymor yr hydref a chytunwyd ar yr amserlen
i alluogi'r Clercod i wneud y trefniadau priodol. |