Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2023 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofrestru (09.15-09.30)

Rhag-gyfarfod preifat – Anffurfiol (09:30 – 10:15)

(10.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

(10.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 26 Ebrill a 24 Mai.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Papur i’w nodi 1 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Gwaith craffu ariannol ar Fyrddau Iechyd – 24 Ebrill 2023

Dogfennau ategol:

2.2

Papur i’w nodi 2 – Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2022-23: Ymateb Llywodraeth Cymru – Ebrill 2023

Dogfennau ategol:

2.3

Papur i’w nodi 3 – Llythyr oddi wrth Peter Fox AS at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Bwyd (Cymru) – 4 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.4

Papur i’w nodi 4 – Adroddiad Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru – 5 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.5

Papur i’w nodi 5 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - 5 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.6

Papur i’w nodi 6 – Llythyr oddi wrth Jonathan Athow, CThEF: Gweinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) – 9 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.7

Papur i’w nodi 7 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Amaethyddiaeth (Cymru) – 9 Mai

Dogfennau ategol:

2.8

Papur i’w nodi 8 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Chwyddiant yn yr amcangyfrifon o gostau sy'n cyd-fynd â Biliau'r dyfodol – 12 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.9

Papur i’w nodi 9 – Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Y DU/Iwerddon/CE: Cytundeb Ariannu ar Raglen PEACE PLUS 2021-2027 – 12 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.10

Papur i’w nodi 10 – Llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol – 17 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.11

Papur i’w nodi 11 – Bil Bwyd (Cymru): Ymateb gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil – 19 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.12

Papur i’w nodi 12 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Bil Bwyd (Cymru) – 31 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.13

Papur i’w nodi 13 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) – Gwelliant Cyfnod 2 y Llywodraeth – 24 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.14

Papur i’w nodi 14 – Llythyr oddi wrth Gomisiwn y Senedd: Diweddariad mewn perthynas ag argymhelliad adroddiad y Pwyllgor – 24 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.15

Papur i’w nodi 15 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – 31 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.16

Papur i’w nodi 16 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 13 Mehefin 2023

Dogfennau ategol:

(10.15-11.15)

3.

Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn i’r Gweinidog Addysg ddarparu nodyn ar:

 

·         orwariant ar gyllideb ysgolion ac a ellir cario unrhyw ddiffyg ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf.

 

(11.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(11.15-11.30)

5.

Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law

 

(11.30-11.45)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-23 P1 – Papur eglurhaol

FIN(6)-10-23 P2 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 2 Mehefin 2023

FIN(6)-10-23 P3 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad – 1 Mehefin 2023

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig.

 

(11.45-12.00)

7.

Archwilio Cymru - Hysbysiad o derfynau amser archwilio

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-23 P4 –  Archwilio Cymru – Hysbysiad o derfynau amser archwilio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar yr hysbysiad o derfynau amser archwilio a chytunodd i ysgrifennu at Archwilio Cymru.

 

(12.00-12.15)

8.

Ymgynghori â Phwyllgorau’r Senedd ar y dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Gyllideb Ddrafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-23 P5 – Papur eglurhaol

FIN(6)-10-23 P6 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd ac Isadeiledd – 12 Ebrill 2023

FIN(6)-10-23 P7 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol – 18 Mai 2023

FIN(6)-10-23 P8 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – 25 Mai 2023

FIN(6)-10-23 P9 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – 20 Ebrill 2023

FIN(6)-10-23 P10 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – 26 Mai 2023

FIN(6)-10-23 P11 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – 28 Ebrill 2023

FIN(6)-10-23 P12 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – 26 Ebrill 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyrau a gyflwynwyd gan gadeiryddion Pwyllgorau a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

(12.15-12.30)

9.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-23 P13 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno.