Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2023 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cofrestru (09.30-09.45) |
||
Rhag-gyfarfod preifat – Anffurfiol (09.45-10.00) |
||
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid. 1.2 Datganodd
Mike Hedges AS ei fod yn Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undeb y Gwasanaethau
Cyhoeddus a Masnachol (PCS). |
|
(10.00) |
Papurau i'w nodi Cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Medi. Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 - 21 Medi 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2- Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes: Amserlen y gyllideb 2024-25 - 21 Medi 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Cyllid: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 27 Medi 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 - Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd mewn perthynas â'r adroddiad: Taliag costau byw 2023-24 - 29 Medi 2023 Dogfennau ategol: |
||
(10.00-11.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25: Sesiwn dystiolaeth Ken Skates AS,
Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu Manon Antoniazzi,
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Kate Innes, Prif
Swyddog Cyllid Papurau
ategol: FIN(6)-15-23 P1 –
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 FIN(6)-15-23 P1a
- Llythyr gan Ken Skates AS, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu: Taliag
costau byw 2024-25 - 3 Hydref 2023 Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.13.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25 gan
y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y
Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a
Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid. 3.2 Cytunodd
Comisiwn y Senedd i ddarparu rhagor o wybodaeth am y canlynol: ·
arolwg
staff Comisiwn y Senedd; ·
portffolio
Cronfa Brosiectau Comisiwn y Senedd; ·
costau
parcio ceir; a ·
Gweithgarwch
ymgysylltu'r Senedd. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(11.00-11.15) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.15-11.30) |
Bil Seilwaith (Cymru) - Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-15-23 P2 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Oblygiadau Ariannol Bil Seilwaith (Cymru) a
chytunodd arno gyda mân newidiadau. |
|
(11.30-12.00) |
Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion Dogfennau
ategol: FIN(6)-15-23 P3 -
Llythyr drafft at y Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol: Adolygiad o'r Datganiad o
Egwyddorion FIN(6)-15-23 P4 -
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y llythyr drafft ar yr Adolygiad o'r Datganiad Egwyddorion a chytunodd
ar fân newidiadau. |