Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/03/2023 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cofrestru (09.00-09.15) |
||
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. 1.3 Dirprwyodd Tom Giffard AS ar ran Peter Fox AS ar
gyfer eitemau 1 i 6. Roedd Peter Fox AS yn bresennol am weddill y cyfarfod. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddyraniadau Cyfalaf Trafodion Ariannol - 27 Chwefror 2023 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Goblygiadau ariannol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Eluned Morgan AS,
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dafydd Evans, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Gwyddorau Bywyd ac Arloesi Leanne Roberts, Pennaeth
Polisi Diwygio Caffael - Iechyd a gofal cymdeithasol Dogfennau
ategol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (PDF,
101KB) Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol; Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwyddorau Bywyd
ac Arloesedd; a Leanne Roberts, Pennaeth Polisi Diwygio Caffael - Iechyd a
Gofal Cymdeithasol. 3.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ddarparu: ·
cyfrifon manwl mewn perthynas â’r
cynnydd o £2.7 miliwn mewn costau staff i gyrff y GIG a nodwyd yn yr Asesiad
Effaith Rheoleiddiol; ·
cadarnhad o’r tebygolrwydd y bydd
Llywodraeth Cymru yn cael cyllid canlyniadol o ganlyniad i’r gwariant yn
Lloegr. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod ar 23 Mawrth 2023 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-10.45) |
Goblygiadau ariannol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.45-11.00) |
Adolygiad o Siarter Awdurdod Cyllid Cymru Dogfennau
ategol: FIN(6)-06-23 P1 -
Awdurdod Cyllid Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar yr adolygiad o
siarter Awdurdod Cyllid Cymru. |
|
(11.00-11.30) |
Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-06-23 P2 -
Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad cyn cytuno arno, yn
amodol ar fân newidiadau. |