Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Rhag-gyfarfod Preifat - Anffurfiol (09.15-09.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod y Pwyllgor Cyllid. 1.2
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd
Peter Fox AS fuddiant o dan eitem 3, sef ei fod yn ffermwr ac yn ffermwr
tenant. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2022 Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog
ynghylch goblygiadau ariannol Biliau. |
|
PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC) - 19 Hydref 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Hydref 2022 - 21 Hydref 2022. Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru - 25 Hydref 2022. Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen Cyllideb Ddrafft 2023-24 Llywodraeth Cymru - 24 Hydref 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen ar gyfer Ail Gyllideb Atodol 2022-23 - 3 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Goblygiadau ariannol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Lesley Griffiths
AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd James Owen,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diwygio Rheoli Tir Simon
Bilsborough, Uned Ddiwygio Rheoli Tir Dogfennau
ategol: Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y’i cyflwynwyd
(PDF, 345KB) Memorandwm Esboniadol (PDF 3.8MB) Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths
AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd; a swyddogion
Llywodraeth Cymru ar oblygiadau ariannol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: ·
Nodyn ar y modelu ariannol yn
ymwneud â chostau anhysbys neu anfesuradwy’r Bil, yn seiliedig ar brofiadau'r
gorffennol. ·
Nodyn ar y gofynion adrodd ariannol
ar gyfer asesu'r effaith economaidd ar y sector amaethyddol mewn perthynas â
chynlluniau cymorth yn y dyfodol. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 7 a’r cyfarfodydd ar 16 Tachwedd 2022 a 1 Rhagfyr 2022. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-10.45) |
Goblygiadau ariannol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
Cyhoeddus |
||
(10.45-12.00) |
Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2023-24 a'r Adroddiad Interim: Sesiwn dystiolaeth Adrian Crompton,
Archwilydd Cyffredinol Cymru Lindsay Foyster,
Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru Kevin Thomas,
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol Ann-Marie Harkin,
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio Dogfennau
ategol: FIN(6)-22-22 P1 -
Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i
ben ar 31 Mawrth 2024 FIN(6)-22-22 P2 -
Gwybodaeth ategol ar gyfer Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru y
flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2024 FIN(6)-22-22 P3 –
Adroddiad Interim – Asesiad o gynnydd a wnaed o’i gymharu â’n Cynllun Blynyddol
ar gyfer 2022-23 yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2022 FIN(6)-22-22 P4 -
Llythyr gan Ben Robertson ar ran canghennau Undeb y PCS ac Undeb Prospect yn
Archwilio Cymru: Cyflog Staff - 3 Tachwedd 2022 Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio
Cymru. |
|
Preifat |
||
(12.00-12.15) |
Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2023-24 a'r Adroddiad Interim: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |