Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. 1.3 Yn unol â
Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Peter Fox AS fuddiant o dan eitem 7, sef ei
fod yn ffermwr ac yn derbyn y taliad sengl. |
|
(09.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). |
|
PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Craffu cyn y gyllideb - 28 Medi 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) - 30 Medi 2022 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth Ken Skates AS,
Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu Manon Antoniazzi,
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Nia Morgan,
Cyfarwyddwr Cyllid Papurau
ategol: FIN(6)-19-22 P1 –
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-24 Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 gan
y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y
Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a
Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid. 3.2 Cytunodd
Comisiwn y Senedd i wneud y canlynol: ·
Darparu
nodyn ar y prosiectau a nodwyd ar gyfer 2023-24, sydd wedi'u cynnwys yng
nghronfa prosiect y Comisiwn. ·
Cylchredeg
canllaw i Aelodau o’r Senedd ynghylch y system wresogi ac awyru yn swyddfeydd Tŷ Hywel. ·
Darparu
nodyn ar y blaenoriaethau lefel uchaf o fewn strategaeth y Comisiwn ar gyfer
lleihau ei gostau ynni a'i ôl troed carbon. ·
Darparu
nodyn ar gymhwysedd y Comisiwn ar gyfer menter Llywodraeth Cymru, buddsoddi i
arbed. ·
Darparu
nodyn ar strwythur staff y Comisiwn. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(10.30-10.45) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(10.45-11.00) |
Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-19-22 P2 –
Adroddiad drafft (I'w gynnwys yn y pecyn atodol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Bu'r Pwyllgor
yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno. |
|
(11.00-11.15) |
Goblygiadau ariannol Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Dogfennau
ategol: Bil Amaethyddiaeth (Cymru). (PDF, 375KB) Memorandwm Esboniadol (PDF, 3.7MB) Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dogfennau ategol a chytunodd i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog
Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar oblygiadau Ariannol Bil
Amaethyddiaeth (Cymru). |
|
(11.15-11.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-19-22 P3 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Bu'r Pwyllgor
yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno. |
|
(11.30-12.00) |
Adolygu Protocol y Gyllideb Dogfennau
ategol: FIN(6)-19-22 P4 –
Papur ar Brotocol y Gyllideb Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y papur ar Brotocol y Gyllideb. |